
CYNGOR TREF FFESTINIOG
CROESO
Mae ardal Cyngor Tref Ffestiniog yn cynnwys tref Blaenau Ffestiniog a phentref Llan Ffestiniog. Bro Gymraeg yw Ffestiniog gyda’r iaith a’r diwylliant yn greiddiol i’w hunaniaeth. Mae amddiffyn yr iaith yn hynod bwysig i lawer o'r boblogaeth a defnyddir y Gymraeg yn naturiol fel iaith gyntaf. Mae poblogaeth yr ardal yn 4,875 yn ôl cyfrifiad 2011, sy'n gwneud Cyngor Tref Ffestiniog y cyngor trydydd fwyaf yn awdurdod unedol Gwynedd, ar ôl Bangor a Chaernarfon. Mae 16 o gynghorwyr yn cynrychioli 5 ward sef Tanygrisiau, Bowydd a Rhiw, Diffwys a Maenofferen, Conglywal, a Chynfal a Theigl. Mae’r ardal wedi trefeillio â thref Rawson ym Mhatagonia.
Ar ddechrau’r 19eg ganrif, ‘pentref bach tlawd’ oedd Ffestiniog gydag ychydig o ffermydd ynysig. Roedd ffermio defaid yr un mor bwysig â llechi i’r arloeswyr cynnar. Yn y diwedd daeth llechi yn sail i gyfoeth Eryri, a daeth Blaenau Ffestiniog yn ganolbwynt i'r diwydiant. Ffynnodd y diwydiant a daeth Blaenau Ffestiniog i gael ei hadnabod fel “y dref oedd yn rhoi to i’r byd”. Heddiw, mae'r dref yn dibynnu'n helaeth ar dwristiaeth, sy'n dod i weld yr atyniadau niferus yn y dref ac o'i chwmpas. Yn y blynyddoedd diwethaf mae ‘prifddinas lechi’r byd’ wedi dod yn un o’r canolfannau gweithgareddau mwyaf arloesol yng ngogledd Cymru. Nawr, mae’r tomenni llechi yn gartref i feicwyr mynydd ac anturiaethwyr, ac mae’r ceudyllau bellach yn gartref i’r trampolîn a’r gwifrau zip tanddaearol cyntaf yn y byd.
NEWYDDION

Ymgynghoriad Cyhoeddus Dyfodol Safle’r Hen Barc Sgrefrio
Mae Cyngor Tref Ffestiniog ar hyn o bryd yn ystyried opsiynau ar gyfer datblygu safle’r hen barc sglefrio yn y dyfodol. Cyn gwneud unrhyw benderfyniad, hoffai’r Cyngor glywed barn y gymuned. Mae’r ymgynghoriad yn gofyn am eich barn ar ddefnyddiau posibl ar gyfer y safle, gan gynnwys opsiynau sydd wedi cael eu trafod gan y…

Seddau Gwag
FFESTINIOG TOWN COUNCIL CASUAL VACANCIES There are currently 2 casual vacancies on Ffestiniog Town Council in the following wards: If electors in these wards wish to request an election to fill the vacancies, a written request signed by 10 electors from the relevant ward must be sent to: The Returning OfficerGwynedd CouncilCouncil OfficesCaernarfonGwyneddLL55 1SH 🕛…

Cyngor Tref Ffestiniog yn Hedfan Baner Palesteina yng Nghanol y Dref
Yn y Cyfarfod Anarferol a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2025, pleidleisiodd Cyngor Tref Ffestiniog o blaid hedfan baner Palesteina o bolyn canolog y dref. Derbyniodd y Cyngor y cynnig, sef: “Mynegi pryder dwys ynghylch yr argyfwng dyngarol parhaus yn Gaza a’r Lan Orllewinol, a’r colledion trychinebus o fywyd sifil ar bob ochr; Galw am gadoediad…
